Gweithdrefn Gwyno
Ein Hymrwymiad i Gwsmeriaid
Ein nod ni yw sicrhau:
- Bod gwneud cwyn mor hawdd ag y bo modd
- Ein bod ni’n cymryd pob cwyn o ddifri
- Ein bod ni’n ymdrin â’ch cwyn chi yn brydlon ac yn gyfrinachol
- Ein bod ni’n dysgu oddi wrth gwynion ac yn eu defnyddio i adolygu a gwella ein gwasanaeth
Beth yw cwyn?
Cwyn yw pan fyddwch chi’n rhoi gwybod i ni nad ydych chi’n hapus â’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu. Gall fod am unrhyw beth a gallai gynnwys:
- Pan nad ydym yn darparu gwasanaeth mewn da bryd
- Pan fyddwn ni’n rhoi’r wybodaeth anghywir
- Pan gewch chi wasanaeth o ansawdd gwael
- Pan gewch chi broblem ag aelod o’r staff
Sut i wneud cwyn
Os hoffech chi wneud cwyn ffurfiol, cewch chi gysylltu â’r swyddfa trwy unrhyw un o’r ffyrdd a nodir isod.
Trwy’r e-bost ar ein gwefan
Yn ysgrifenedig at ein Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid yn
South Wales Transport (Neath) Ltd
Uned 2, Ferryboat Close
Parc Menter Abertawe
Abertawe
SA6 8QN
Dros y ffôn i 01792 799575
Yn bersonol yn ein swyddfeydd.
Ymchwilir i’ch cwyn yn llawn a rhoddir ymateb ymhen 10 niwrnod gwaith.
Os byddwch chi’n anhapus â’r ymateb, cewch chi ysgrifennu at y Rheolwr Gyfarwyddwr:
Mr D Fowles
Uned 2, Ferryboat Close
Parc Menter Abertawe
Abertawe
SA6 8QN
Os byddwch chi’n parhau’n anhapus
Os byddwch chi’n parhau’n anhapus â’n hymateb ni, mae croeso i chi gysylltu â Bus Users UK yn:
Bus Users Cymru
Swyddfeydd Leckwith
Ffordd Sloper
Caerdydd
CF11 8TB
Ffôn: 0300 111 0001
E-bost: [email protected]